Y Neuadd Goffa

Hanes – sut y dechreuodd

Adeiladu’r Neuadd Goffa

1923 Penderfynwyd adeiladu ar dir adfail Pen Rhiw a’i galw’n Neuadd Goffa Mynydd Llandegai. Y bwriad oedd gwario rhwng £600 ag £800 i ddal 400 i 700 o bobl.

Y Parchedig William Morgan oedd yn trafod gyda stad Penrhyn am y tir. Rhoddwyd cais am fwy o dir o amgylch yr adeilad ond gwrthododd y tenant.

Aeth y Pwyllgor i farcio cynllun ar y tir a threfnodd y Pwyllgor Gwaith restr i ddynion y pentref. Rhoddodd Mrs Roberts, Cefn yr Ynys ganiatâd i gadw llechi a deunydd adeiladu yno.

1928 Pwyllgor yn cyfarfod y Pensaer ar y safle i weld y manylion.

Dim cofnodion o 1928 hyd at 1933. Mae trigolion hyn y pentref yn cofio dynion y pentref yn adeiladu’r Neuadd,  gweithio gyda’r nos ar ôl diwrnod caled o waith yn y chwarel. Byddai cyfarfodydd i godi arian i dalu am bopeth.

1931 Arglwyddes Penrhyn yn gosod y garreg sylfaen.

1933 Cofnodion yn dangos fod y prif adeilad wedi ei orffen a’r ystafell filiards yn cael ei defnyddio er nad oedd llenni ar y ffenestri. Toiledau (allan yn y cefn) ddim yn barod. Angen ffenestr yn nho’r gegin a phren hongian lluniau yn y ddwy brif ystafell. Pren i fachau yn yr ystafell filiards a blwch glo a rhaw.  Am brynu boilar 30 galwyn i’r gegin. Gosod grât a boilar am 25 swllt. Saer maen am roi concrid o gwmpas yr adeilad ar yr amod fod person lleol yn ei gynorthwyo.

Ysgrifennydd yn gyfrifol am y peipiau dwr yn yr ‘Ante Room’ a thap dwr tu allan i ddefnydd y gegin. Y coed lluniau a drysau’r gegin a thy^ bach yn cael eu peintio. Mr Jones Bwlch yn tyllu’r treini i’r peipiau dwr.

Galwyd cyfarfod gyda’r ymddiriedolwyr i gael caniatâd i wario mwy na’r benthyciad.

Dau grât ar y traeni. Llenni, bleindiau a manion wedi eu gosod ar bob ffenestr. Tar a cherrig ar y llwybr mynediad a gosod y cof-lechen.

Byrddau, grisiau i’r llwyfan a hysbysfwrdd wedi cael eu gwneud yn lleol. Cloeau ‘Suffolk’ a bwcedi i’r tai bach. Peintio’r drysau a pheipiau lander. R T Jones wedi rhoi cwpwrdd i ddal y weirles, rhodd gan Dr Pritchard, Bethesda. Pwyllgor yn rhoi cloc i’w osod yn yr ystafell filiards.

Gosod y bwrdd biliards a Mr Ashcroft o Lerpwl yn gosod y ‘cloth’ ar y bwrdd cyntaf am £12, trin yr ail fwrdd am 35 swllt.

1934 Gosod grât a gwydr yn ffenestri’r gegin. I ddilyn rheolau tân, chwe bwced i’w gosod ar fur y Neuadd. Twtio a pheintio erbyn ymweliad Tywysog Cymru. Cafwyd caniatâd i godi tywyrch o’r mynydd i’w osod tu allan.

Prynwyd piano a gwnaethpwyd gorchudd iddi. Mr Rowland Pritchard yn rhoi coed addurniadol.

Ffurfiwyd ‘Women’s Institute’ gan ferched y pentref (Mehefin 11eg, 1934) gydag Arglwyddes Penrhyn yn cytuno i fod yn llywydd.

Gwnaethpwyd ffenestri a drysau, Chwech i’r ystafell filiards gyda bariau haearn ar y ddwy ar y talcen. Tynnu allan ac ail wneud y grât yn y gegin.

Prynu llyfrau canu i’r Neuadd. Addasu’r ‘anteroom’ wrth y gegin yn llyfrgell.

Gosod ffens o amgylch y Neuadd i gadw’r defaid allan. Llenni yn cael eu gwneud i’r llwyfan a chypyrddau i’r llyfrgell.

Mae’r wybodaeth uchod o lyfr cofnodion cyntaf y Neuadd Goffa.

Neuadd Goffa – Memorial Hall