Sesiynnau:
- Bore (9am-12pm)
- Prynhawn (1pm-5pm)
- Gyda’r nos (6pm-10pm)
- Diwrnod (9am-6pm)
Rheolau:
- Pan yn cyrraedd yr adeilad rhaid i’r llogwr nodi safleoedd y larymau, diffoddwyr ac allanfeydd tan. Dylid cadw’r allanfeydd tan yn glir pob amser.
- Ni chaniateir ysmygu yn yr adeilad. Cyfrifoldeb y llogwr yw sicrhau bod pawb yn cadw at y rheol hwn.
- Ni chaniateir diodydd alcohol o unrhyw fath yn y Neuadd Goffa heb ganiatad y Pwyllgor Rheoli.
- Pan yn llogi’r Neuadd dylech sicrhau bod amser gennych i baratoi a chlirio’r adeilad.
- Rhaid i’r sawl sy’n arwyddo’r ffurflen hon fod dros 18 oed.
- Y llogwr sy’n gyfrifol am gyflenwi sachau sbwriel, cadachau golchi a sychu llestri.
- Y llogwr sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr holl ddodrefn ac unrhyw offer arall a ddefnyddir yn cael eu cadw yn eu llefydd priodol.
- Dylid cymryd gofal arbennig o’r llawr newydd. Ni chaniateir esgidiau pêl droed yn y Neuadd. Dylai dodrefn ac offer trymion gael eu cario ac nid eu llusgo dros y llawr. Os collir hylif o unrhyw fath ar y llawr dylid sicrhau ei fod yn cael ei sychu ar unwaith. Dim gemau pêl.
- Rhaid ysgubo’r lloriau’n lan ar ddiwedd pob sesiwn a sicrhau bod y gegin a’r llestri’n lan os defnyddir hwy.
- Dylid gadael yr holl gyfleuterau’n lan ac yn eu cyflwr gwreiddiol. Bydd y llogwr/llogwyr yn gyfrifol am ad-dalu unrhyw ddifrod a achosir.
- Mae arwyddo’r ffurflen hon yn golygu bod y llogwr/llogwyr yn cytuno i gadw at y rheolau hyn.